Fe fydd actor Coronation Street, Bill Roache, yn y llys y bore yma yn wynebu pum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferched rhwng 11 neu 12 ac 16 oed.
Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae digon o dystiolaeth i ddod ag achos yn erbyn yr actor, sydd wedi cymryd rhan Ken Barlow ar yr opera sebon ers iddi ddechrau ar y teledu yn 1960.
Mae’r actor 81 oed yn cael ei gyhuddo o ddau ddigwyddiad o ymosod yn rhywiol ar ferch 14 oed yn 1965 a thri achos arall ar wahân yn 1968 o ymosod ar ferched 11-12, 14 ac 16 oed.
Cyhuddiadau o dreisio hefyd
Fe fydd William Roache yn ymddangos o flaen Llys y Goron Preston heddiw ar ôl cael ei arestio gan yr heddlu ddoe.
Roedd eisoes yn wynebu dau achos o dreisio merch 15 oed yn 1967 ac roedd disgwyl iddo ymddangos eto yn y llys ddydd Llun.
Mae’r actor, sydd wedi ei wahardd am y tro o ymddangos ar Coronation Street, wedi gwadu’r cyhuddiadau hynny.