Y llun o William Herbert
Mae technoleg wyddonol newydd wedi ei defnyddio er mwyn darganfod mwy o hanes llun 396 mlwydd oed yng Nghastell Powis.

Dychwelodd llun William Herbert, 3ydd Iarll Sir Benfro i Gastell Powis ar ôl 20 mis yn cael ei lanhau a’i ymchwilio’n drwyadl.

Trwy broses o gyfrif cylchoedd coed (dendrochronology) mae arbenigwyr wedi darganfod mai rhwng 1600 a 1680 y cafodd y llun ei baentio.

A thrwy ei astudio’r gwaith yn fanwl dan chwydd-wydr, maen nhw wed gallu adnabod techneg ac arddull unigryw yr arlunydd Fflemeg, Abraham Van Blyenberch.

Bwriad y prosiect oedd ceisio deall sut aeth yr arlunydd ati i wneud y llun fel bod yr un dulliau o ddehongli yn gallu cael eu defnyddio i adnabod a chymharu lluniau eraill honedig gan yr arlunydd.

Mae rhain yn cynnwys llun o’r bardd a’r dramodydd enwog Ben Johnson, sydd i’w weld yng Ngaleri Darluniau Cenedlaethol.    

Diddorol

Dywedodd Rheolwr Tŷ a Chasgliadau Castell Powis, Margaret Gray: “Mae’n ddiddorol darganfod cymaint am lun sydd wedi bod yn rhan o’n casgliad ers cannoedd o flynyddoedd.

“Daeth nawdd ar gyfer y prosiect gan elusen Gwendoline a Margaret Davies, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw.”