Fe fydd y band roc, Edward H Dafis, yn canu am y tro olaf yn Eisteddfod Dinbych eleni. A fydd yna ddim dod yn ôl.
Fe fydd y grŵp roc a rol o’r 1970au yn cynnal parti i ddathlu eu pen-blwydd yn 40 oed ar Lwyfan y Maes ar y nos Wener.
Yn ol y prif leisydd, Cleif Harpwood, roedd y grŵp wedi addo, wrth ail-ffurfio ar gyfer Gŵyl y Faenol ym Mangor, mai dyma fyddai eu noson ola’.
“Mae’n ddiwedd cyfnod i ni,” meddai. “ae’n rhywbeth r’yn ni fel pobol am ei ddathlu yn fwy na dim a’i rannu gyda lot o bobol sydd wedi ein cefnogi ni dros y pedwar degawd… sy’n amser hir.”
Eisteddfod Dyffryn Clwyd yn 1973 oedd y tro cyntaf erioed i Edward H Dafis ganu gyda’i gilydd yn noson lawen fawr Tafodau Tan ym mhafiliwn Corwen.
Fe ddaeth y grŵp i ben –ar ôl pum record hir – yn 1981.
Y stori’n llawn yng nghylchgrawn Golwg, Mehefin 6