Mae’r bardd Owen Sheers wedi gwrthod anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth oherwydd ffrae dros ddyfodol Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.
Roedd y Brifysgol wedi trefnu digwyddiad ‘diodydd a chanapes’ yng Ngŵl y Gelli gan wahodd Owen Sheers i wneud darlleniad a chael ei gyflwyno yn Gymrawd y Brifysgol gan yr Is-ganghellor, April McMahon.
Wedi datganiad yr Is-Ganghellor, eglurodd yr awdur na fyddai’n addas iddo “ar hyn o bryd” i dderbyn yr anrhydedd.
“Yn garedig iawn, roedd Prifysgol Aberystwyth –sefydliad dw i’n ei hedmygu yn fawr dros y blynyddoedd –wedi cynnig Cymrodoriaeth er Anrhydedd i mi,” meddai’r bardd.
“Ond tynnwyd fy sylw at yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar rhwng y Brifysgol a’r Ganolfan Gelfyddydau.”
Mae nifer o bobol gelfyddydol ardal Aberystwyth – gan gynnwys yr artist Shani Rhys James a’r bardd Gillian Clark – wedi bod yn deisebu yn erbyn penderfyniad y Brifysgol i ddiarddel dau aelod amlwg o staff y Ganolfan fis Mawrth.
Mae’r Brifysgol wedi gwadu bod unrhyw gysylltiad rhwng hynny a chynlluniau ad-drefnu’r Ganolfan.
“Pan fo cynifer o bobol yn y dalgylch a phryder gwirioneddol am y digwyddiadau diweddar a’r dyfodol, roedd hi’n amhriodol i mi fel artist Cymreig, mewn gŵl gelfyddydol fel y Gelli, ar hyn o bryd i gadarnhau y gallwn dderbyn adeg y seremoni raddio fis Gorffennaf.”
Ymateb Prifysgol Aberystwyth
“Penderfyniad i’r unigolyn yw a ydynt yn dymuno derbyn Cymrodoriaeth. Nid yw’r Brifysgol wedi ei hysbysu yn ffurfiol gan unrhyw un nad ydynt yn dymuno cael eu derbyn yn Gymrawd eleni.
“Mae Mr Sheers wedi hysbysu’r Brifysgol nad yw ar gael ar y dyddiad a ddynodwyd yn wreiddiol ar gyfer y seremoni. Mewn ymateb i hyn mae’r Brifysgol wedi cynnig iddo ymweld ar adeg arall yn yr hydref i gyfrannu at ddigwyddiad i fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol.
“Rydym yn mawr obeithio y bydd yn derbyn y gwahoddiad hwn.”
Mwy am y stori yng nghylchgrawn Golwg, Mehefin 6