Mae Mathew Rhys wedi dweud nad yw e am siomi ei gefnogwyr pan fydd e’n chwarae rhan Mr Darcy mewn drama newydd i’r BBC sy’n seiliedig ar Pride and Prejudice.
Fe fydd y Cymro’n chwarae rhan y cymeriad eiconig yn ‘Death Comes To Pemberley’.
Mae e wedi cyfaddef fod ganddo fe esgidiau mawr i gamu i mewn iddyn nhw, yn dilyn llwyddiant Colin Firth yn y rôl.
“Mae’n dipyn o bryder,” meddai. “Er gwaetha Colin Firth neu Matthew Macfadyen neu Laurence Olivier neu pwy bynnag arall sydd wedi’i chwarae fe, mae cynifer o bobol wedi darllen y llyfr.
“Mae ganddyn nhw berthynas hynod o arbennig gyda Darcy, ac mae ganddyn nhw syniadau clir iawn am bwy ddylai fe fod.
“Felly mae rhywun yn pryderu eich bod chi’n codi’ch hun i gael eich siomi. Rwy’n ddyn gwydryn hanner gwag.”
Daeth Colin Firth i amlygrwydd yn y ddrama gyfnod Pride and Prejudice ar y BBC yn 1995, ac fe gafodd y cymeriad ei chwarae gan Matthew Macfadyen ar gyfer addasiad ffilm yn 2005. Cafodd Mr Darcy ei chwarae gan Laurence Olivier yn y fersiwn ffilm yn 1940.
Fe fydd Anna Maxwell Martin yn chwarae rhan Elizabeth Bennett, a Matthew Goode yn chwarae rhan George Wickham.
Bydd y gyfres dair rhan yn cael ei ffilmio yn Swydd Efrog.
Ar hyn o bryd, mae Matthew Rhys yn ymddangos yn y ddrama The Americans ar ITV, sy’n adrodd hanes ysbïwyr o Rwsia yn Washington yn y 1980au.