Rhys, Rhodri a 3 Tenor Cymru
Mi fydd cyngerdd arbennig i godi arian tuag at Elusen Cancr Macmillan yn cael ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar nos Sadwrn 15 Mehefin.

Bu farw Non Taylor yn 2003 ar ol colli ei brwydr yn erbyn cancr y fron. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae ei gŵr Mike, a’i meibion Rhys a Rhodri yn cynnal cyngerdd er cof am Non ac i godi arian tuag at yr elusen.

Mi fydd Rhys, Rhodri a 3 Tenor Cymru a ‘Cherddorfa Stiwdio RT’ yn perfformio yn ystod y noson arbennig hon, sy’n nodweddu cerddoriaeth yn amrywio o glasurol a jas i gerddoriaeth y sioeau cerdd a chaneuon poblogaidd.

Mae tocynnau ar gael o: http://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/classical-music/rhys-rhodri-3-tenor-cymru