Ian Watkins

Mae prif leisydd y band Lostprophets, Ian Watkins wedi gwadu 24 cyhuddiad yn ymwneud â throseddau rhyw.

Ymddangosodd Watkins, 35, o Bontypridd gerbron Llys y Goron Caerdydd trwy gyswllt fideo’r bore ma.

Cafodd ei arestio fis Rhagfyr diwethaf.

Mae e wedi’i gyhuddo o gynllwynio i dreisio plentyn dan 13 oed, cynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn 13 oed a threisio babi.

Ymddangosodd dwy ddynes, 24 a 20 oed, yn y llys hefyd, wedi’u cyhuddo o droseddau yn erbyn plant.

Mae hefyd yn wynebu tri chyhuddiad yn ymwneud â meddu ar, a dosbarthu, lluniau anweddus, ac un cyhuddiad o fod yn berchen ar bornograffi eithafol.

Honnir iddo gyflawni’r troseddau o 2007 ymlaen.

Mewn datganiad trwy ei gyfreithwyr yn ddiweddarach, dywedodd Watkins ei fod yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac fe ddiolchodd ei ffans am eu cefnogaeth.

Mae’n cael ei gadw yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.