Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig cynigion arbennig ar docynnau mynediad i faes yr Eisteddfod yn Ninbych eleni.

Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, bod y cynigion yn ymateb i awgrymiadau gan ymwelwyr i’r Eisteddfod.

Dywedodd Hywel Wyn Edwards: “Gobeithio y bydd y cynigion arbennig sydd gennym ar docynnau eleni yn apelio at ein hymwelwyr.

“Rydym yn gwrando ar ein hymwelwyr wrth iddyn nhw awgrymu syniadau am becynnau tocynnau ac am gyfleoedd i gynnig pris gostyngol i’r rheini sy’n prynu ymlaen llaw.

Cynigion arbennig

Am y tro cyntaf, bydd yr Eisteddfod yn cynnig dau docyn teulu gwahanol – i ddau oedolyn a dau blentyn neu ddau oedolyn a thri phlentyn – a bydd modd eu prynu’n rhatach wrth eu prynu ar y we dros yr wythnosau nesaf.

Cynnig arall sy’n newydd ar gyfer 2013 yw’r tocyn tridiau, sef pris gostyngol ar docynnau ar gyfer tri diwrnod gwahanol – ond bydd y cynnig yma’n dod i ben ar ddiwedd Mehefin.

Mae modd i bobl brynu tocyn cyfnod hefyd a bydd y tocyn yma’n rhoi gostyngiad arbennig i unrhyw un sy’n ymweld â’r Eisteddfod am wythnos gyfan.

Ac mae arbediad o tua 10% ar bris tocyn i’r maes wrth ei brynu ar-lein hyd at y diwrnod cyn yr ymweliad, gyda phrisiau gostyngol i bawb ar wefan yr Eisteddfod.

Neges i ymwelwyr

“Mae’r neges i ymwelwyr eleni’n syml – ewch ati i brynu’ch tocynnau ymlaen llaw, a hynny ar-lein hefyd, a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli allan ar y gostyngiadau arbennig,” ychwanegodd Hywel Wyn Edwards.

“Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y tocynnau a werthir ar-lein eleni, gyda thros 88% o’r gwerthiant drwy ein gwefan hyd yn hyn eleni.  Ond, gallwch brynu tocynnau drwy ffonio’r llinell docynnau hefyd.  Cysylltwch da chi am fargeinion go iawn.”

Mae manylion am  y pecynnau tocynnau ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.org.uk.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau ar gyrion tref Dinbych o 2-10 Awst.