Bedwyr Williams
Gwaith artist o Rostryfan ger Caernarfon sy’n cynrychioli Cymru yn swyddogol yn Biennale Fenis 2013.
Cafodd y Biennale ei sefydlu yn 1895 ac erbyn hyn mae’r ŵyl wedi datblygu i fod yn un o’r digwyddidau hynaf a phwysicaf yng nghalendr y celfyddydau gweledol rhyngwladol.
Yn unol âg enw’r ŵyl, bob dwy flynedd yn unig y bydd y Biennale yn cael ei chynnal ac mae’n rhoi cyfle pwysig i artistiaid i ddenu sylw beirniaid a chynulleidfaoedd o bedwar ban byd.
Mae gwaith Bedwyr Williams yn cael ei arddangos yn y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice, sef hen gwfaint sy’n cael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol.
Teitl yr arddangosfa ydi “Y Negesydd Serog” ac mae’n cynnwys cerflun a fideo wedi ei ysbrydoli gan seryddiaeth amatur.
Dywedodd Bedwyr Williams bod yr arddangosfa yn gybolfa o’i ddiddodrdeb yn y gofod a lle dyniolaeth oddi mewn i’r gofod.
“Y peth cyntaf y bydd rhywun yn ei weld ydi sgrîn theatrig yn dangos llun wedi ei argraffu ar lawr terrazzo,” meddai.
“Trwy’r sgrin yna fel allan nhw weld arsyllfa. Wrth iddyn nhw agosau at yr arsyllfa mae nhw’n clywed swn dyn yn crio y tu mewn, dyn canol oed yn crio – y swn tristaf yn y byd.”