Mistar Urdd wrth ei fodd!
Mae llawer fu ynghlwm â threfnu Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro yn dweud eu bod wedi eu plesio’n arw gan bob agwedd o’r
ŵyl.

Cafodd y stondinwyr yn benodol wythnos werth chweil gydag amryw yn dweud eu bod wedi gwerthu mwy nag erioed.

Dywedodd Mari Griffith o gwmni ‘Grasi’ ym Mhencaenewydd, Eifionydd, nad oedd erioed wedi cael gwerthiant cystal mewn unrhyw Eisteddfod. “Mi fu yn rhaid i mi gael mwy o stoc ganol yr wythnos,” meddai.

Roedd yna ganmoliaeth hefyd i’r maes carafanau. Yn ôl un o’r carafanwyr roedd yn faes gwych, y cyfleusterau ar y maes yn lan a’r biniau ail-gylchu yn syniad da.

Roedd Owain Schiavone hefyd yn canmol un datblygiad yn benodol.

“Mae’n faes braf, gwyrdd a hwylus iawn gan ei fod mor agos i’r Maes.  Gwych hefyd fod giatiau o’r Maes Carafanau i’r prif Faes yn agor am 4:30pm, sy’n golygu ein bod yn gallu mynd i’r unedau bwyd ar y Maes min nos i gael swper.”

S4C yn ‘Ap’us hefyd

Mae ap, grewyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod, diolch i gefnogaeth S4C hefyd wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Mae dros 11,000 wedi llawrlwytho’r ap ers ei lansio 10 diwrnod yn ôl, a 90% o’r defnyddwyr wedi rhoi 5 seren iddo, sy’n golygu ei fod wedi bod yn 30 uchaf siart adloniant Apple yn ystod yr wythnos.

Cael ei blesio

Er ei bod yn annhebygol bod cyfanswm yr ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 yn croesi’r 100,000, fel oedd y disgwyl ddechrau’r wythnos, mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith wedi cael ei blesio’n arw.

“Mae wedi mynd yn dda dros ben yma – mae pawb wedi dod at ei gilydd yn ystod yr wythnos, bythefnos olaf ’ma ac wedi cymryd balchder o fod yn rhan o’r Eisteddfod,” meddai Emyr Phillips.

“Gatho ni’n llythrennol ddŵr oer ar bopeth dydd Llun ond mae’r Maes wedi sefyll lan i’r disgwyliadau ac wedi sychu yn dda dros ben.  Mae’r Maes wedi gweithio yn dda dros ben – o ran sut mae wedi cael ei osod a gan fod y Maes Carafanau mor agos.

“Mae’r  parcio wedi bod yn wych trwy waith Clwb Rygbi Crymych, a’r cyfan ydw i wedi glywed yw gwerthfawrogiad mawr i’r bechgyn, sydd nid yn unig yn parcio y ceir ond hefyd yn rhoi croeso mawr i bawb ar y Maes.

“Ar ddiwedd wythnos fel hyn, y cyfan alla i wneud yw diolch yn fawr iawn i bob un o’r ardal am ddangos Sir Benfro ar ei gorau i bobl Cymru.”