Mae chwech o bobol wedi eu lladd ac oddeutu 14 wedi eu hanafu yn dilyn cwymp adeilad yng nghanol dinas Philadelphia ddoe.

Cwympodd yr adeilad 4 llawr o gwmpas 10:30 amser lleol, gan yrru malurion ar adeiladau cyfagos.

Roedd yr adeilad wrthi yn cael ei ddymchwel er does dim cadarnhad eto ynglyn â beth yn union ddigwyddodd.

Cludwyd 13 o bobl i’r ysbyty gyda man anafiadau wrth i dimau achub a chwilio weithio’n hwyr i’r nos i geisio rhyddhau’r bobl hynny oedd yn gaeth.

Roedd yr adeilad yn cael ei defnyddio fel cartref preswyl a swyddfeydd gan gwmniau.

Dywedodd Maer Philadelphia, Michael Nutter fod y meirw’n cynnwys 5 dynes ac 1 dyn. 

“Os oes unrhyw un arall yn gaeth yn yr adeilad, mi fydd y timau achub yn eu darganfod,” meddai.

Fel rhan o’r ymdrech chwilio, gofynwyd i hofrenyddion newyddion ymgilio o’r safle er mwyn i’r timau achub fedru gwrando allan am unrhyw sŵn o weddilion yr adeilad.