Mae dau gorff sy’n arfer rhoi grantiau i fyfyrwyr sydd eisiau gwneud gwaith ymchwil ôl-radd mewn prifysgolion yn Lloegr, yn mynd i fod yn rhoi bron i £100,000 yn llai o’r flwyddyn nesa’ ymlaen.

Ddoe, fe gyhoeddwyd adroddiad ‘Monitoring Outcomes’ yr OFFA a’r HEFCE, sy’n nodi y bydd £90,618,000 yn llai o arian ar gael erbyn 2015.

Mae undebau myfyrwyr wedi bod yn ymgyrchu’n galed ers 2011 am fwy o arian ar ffurf ysgoloriaethau mewn 82 o sefydliadau addysg uwch, yn cynnwys prifysgolion East Anglia, Lerpwl, Anglia Ruskin, Birmingham a Leeds Metropolitan. Fe dderbyniodd pob un o’r rhain hanner miliwn ychwanegol.

Ond, ar yr un pryd, fe gollodd prifysgolion Central Lancashire, Swydd Hertford, Liverpool John Moores a Sunderland dros £1m yr un o ran arian ysgoloriaethau.

“Mae’r gwaith ffantastig sydd wedi’i wneud gan undebau myfyrwyr ar draws Lloegr wedi sicrhau arian ar gyfer nifer o fyfyrwyr,” meddai Liam Burns, Llywydd yr NUS.

“Er hynny, mae llai o arian yn cyrraedd pocedi’r myfyrwyr nac oedd yn 2010 – er bod costau byw yn codi a bod ffïoedd i’w talu hefyd.

“Dyw grantiau a benthyciadau ddim yn talu am holl filiau myfyrwyr,” meddai wedyn, “ac mae mwy na thraean yn dweud wrthym ni fod pryderon ynglyn ag arian yn eu rhwystro rhag canolbwyntio ar eu gwaith coleg.”