Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb yn ofalus i’r newyddion bod y Cynghorydd Mair Stephens wedi ei phenodi yn aelod cabinet newydd yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg.
“Rwy’n falch o glywed cyhoeddiad Arweinydd y Cyngor Sir, ac yn gobeithio y bydd y penodiad yn arwain at newidiadau polisi fydd yn cryfhau’r Gymraeg yn lleol,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin.
“Er bod cynifer o bobl eisiau byw yn Gymraeg, mae’r iaith yn wynebu argyfwng yn y sir Nid oes diben eistedd yn ôl: gydag ewyllys gwleidyddol, gallai pethau newid er gwell. Mae’n amser am ddewrder a syniadau newydd.
“Os derbynia’r cyngor bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg sydd angen ei ddatrys ar frys, bydd gobaith.”