Fe all pobol o ardal Dinbych sy’n penderfynu gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fynd peth o’r ffordd at ennill cymhwyster wrth wneud hynny.

Mae’r Eisteddfod yn gweithio gydag asiantaethau fel Canolfan Byd Gwaith er mwyn annog pobl leol yn ardal Sir Ddinbych a’r Cyffiniau i roi o’u hamser.

Ond, yn gyfnewid am y gefnogaeth a’r gwirfoddoli y mae’r Eisteddfod yn elwa ohonyn nhw, mae’r gwirfoddolwyr eu hunain hefyd yn derbyn hyfforddiant mewn gofal cwsmer gydag achrediad ar ei ddiwedd.

Bydd y cynllun ‘Yma i Helpu’ yn cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr arwain teithiau tywys o amgylch y Maes, ymateb i ymholiadau y tu ôl i’r ddesg wybodaeth yn y Ganolfan Ymwelwyr, rhedeg pwyntiau gwybodaeth a chynghori a chynorthwyo ymwelwyr gyda phob math o bethau.

“Mae mwy i’r cynllun hwn na’r ymgyrchoedd blynyddol sydd gan yr Eisteddfod i annog pobl Cymru i wirfoddoli yn ystod yr wythnos,” meddai Alwyn Roberts, Dirprwy Drefnydd y brifwyl.

“Ein bwriad yw rhoi profiad gwirioneddol i unrhyw un a ddaw atom fel rhan o’r cynllun ‘Yma i Helpu’, gan gynnig hyfforddiant strwythuredig ac achrediad. 

“Ychydig o gyfleoedd sydd i wirfoddoli mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, felly gobeithio y bydd y cynllun hwn yn Sir Ddinbych a’r Cyffiniau eleni’n cael croeso brwd.” 

Dyddiad cau

Mae’n bosib i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gofrestru ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, trwy anfon ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk neu drwy ffonio’r swyddfa ar 0845 4090 400.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau ydi Mehefin 30.