Fe fydd rhaglen ar S4c heno yn rhoi cyfle i bobol ifanc siarad am eu profiadau nhw o golli rhiant.
Fe fydd y rhaglen #Fi yn cynnwys cyfraniadau gan bedwar o bobol ifanc sy’n rhannu eu straeon eu hunain – y sioc, yr emosiwn a’r golled.
Bydd y gyflwynwraig, Lois Cernyw; Harriet, 14 oed sy’n byw ger Llantrisant; Nia, 13 ac Evan, 17 brawd a chwaer o Fro Morgannwg yn siarad am y profiad o golli rhiant ar #Fi.
Profiad personol
Bob blwyddyn mae bron i 25,000 o bobl ifanc ym Mhrydain yn colli rhiant. Fel un a gollodd ei mam ar ôl brwydr yn erbyn cancr dair blynedd yn ôl, mae Lois Cernyw yn dweud ei bod hi’n bwysig peidio â chadw’n dawel.
“Pan ’da chi’n colli rhywun sy’n agos iawn, mae’n andros o anodd gwybod sut i ddelio hefo fo. Mae hyd yn oed sôn am farwolaeth yn medru bod yn galed, ond mae siarad am y peth yn medru bod o help.”
Collodd Harriet ei mam pan oedd hi’n naw oed.
“Mae’n gallu bod yn anodd weithiau i godi a sylweddoli bod mam ddim yna. Weithiau mae fel bod rhan ohonof i ar goll.”
“Mae’n bwysig iawn i bawb siarad, oherwydd does dim pwynt cadw pethau mewn, does dim byd yn gwella wedyn.”
Sioc
Collodd Nia ac Evan eu tad Matthew yn annisgwyl bum mlynedd yn ôl. Roedd e’n ddyn llawn antur ac roedd ei farwolaeth yn sioc fawr i’r teulu.
“Weithiau dwi jyst yn teimlo pam bod e ’di digwydd iddo fo, achos odd e’n ddyn anhygoel o neis, a hapus, ond wedyn weithiau dwi jyst yn meddwl, dwi wedi cael dad ‘amazing’.”
Ymateb elusen
Meddai Janette Bourne, Cyfarwyddwr Cruse Cymru, elusen ar gyfer pobl mewn profedigaeth: “Mae’r bennod hon o #Fi sydd wedi ei dogfennu yn dda a’i recordio yn sensitif yn adrodd straeon personol tri pherson ifanc a’u siwrnai nhw trwy brofedigaeth.
“Mae’n dangos eu hanawsterau nhw i dderbyn yr hyn sydd wedi digwydd ar y dechrau ac yna’n dod o hyd i ffordd o ymdopi gyda’r teimladau a’r emosiynau amrywiol maen nhw wedi’u teimlo.
“Mae rhaglenni fel hon yn bwysig iawn er mwyn dangos i blant a phobl ifanc ei bod hi’n iawn i siarad am eu profiadau personol nhw o golli rhywun.”
Mae’r rhaglen yn gynhyrchiad Boom Pictures, ac i’w gweld ar S4C heno am 6.05pm