Esgyrn rhai o'r bobol a laddwyd (Oliver Spalt CCA2.5)
Mae nifer o gyn-arweinwyr mudiad y Khmer Rouge yng Nghambodia wedi ymddiheuro wrth deuluoedd rhai o’r cannoedd o filoedd o bobol y gwnaethon nhw eu lladd yng Nghambodia.
Er hynny, mae Khieu Samphan, un o brif gefnogwyr yr unben Pol Pot yn yr 1970au, a phrif ideolegydd y mudiad, Nuon Chea, yn gwadu cyfrifoldeb cyfreithiol am y lladd.
Maen nhw wedi dweud wrth dribiwnlys rhyngwladol eu bod wedi gweithredu er lles y genedl ac mai arweinwyr eraill oedd yn gyfrifol am y marwolaethau sy’n cael eu hadnabod wrth yr enw ‘Meysydd Marwolaeth’.
Y cefndir
Mae’r ddau wedi’u cyhuddo o arwain ymgyrch rhwng 1975 a 1979 pan fu farw rhwng 1.7 a 2.5 miliwn o bobol trwy ladd, llafur gorfodol, llwgu a diffyg gofal meddygol.
Clywodd y tribiwnlys, sydd wedi’i gefnogi gan y Cenhedloedd Unedig, dystiolaeth gan deuluoedd rhai o’r bobol a gafodd eu lladd gan y Khmer Rouge.
Mae Nuon Chea wedi derbyn “cyfrifoldeb moesol” am y marwolaethau.