William Hague
Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain alw am yr hawl i wledydd unigol rwystro deddfau’r Undeb Ewropeaidd.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, yn galw am system ‘cerdyn coch’ i lywodraethau’r gwledydd atal deddfau “niweidiol neu amherthnasol”.
Fe fyddai hynny’n democrateiddio’r Undeb Ewropeaidd, meddai wrth baratoi i annerch gweithgor ar bolisi tramor yn yr Almaen.
‘Cau bwlch democrataidd’
Fe fydd e’n dweud mai dim ond trwy gael fito a datganoli pwerau i aelodau seneddol y gwledydd unigol, yn hytrach nag aelodau seneddol Ewrop, y gall Ewrop gau’r bwlch democrataidd.
Ar hyn o bryd, mae system ‘cerdyn melyn’ yn rhoi grym i wledydd unigol ofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd ailystyried deddfau, ond dydyn nhw ddim yn gallu eu gwrthod yn llwyr.
Mae William Hague yn gobeithio cael cefnogaeth nifer o wledydd blaenllaw’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys Yr Almaen.