Blodau i gofio Lee Rigby (PA)
Fe fydd cwest i farwolaeth y milwr Lee Rigby yn cael ei agor a’i ohirio yn Llys Crwner Southwark heddiw.

Cafodd y dyn 25 oed ei ladd ger barics Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ar Fai 22 ac mae un dyn wedi’i gyhuddo o’i lofruddio.

Ddoe, ymddangosodd Michael Adebowale, 22 oed, gerbron llys, yn Llundain ac mae dyn arall, Michael Adebolajo, wedi ei arestio ond yn dal i fod yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu adeg y digwyddiad.

Dangosodd archwiliad post mortem fod Lee Rigby wedi marw o nifer o glwyfau ar ôl cael ei dorri a’i drywanu.

  • Bydd cyfarfod gweddi’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Islamaidd Greenwich heddiw er cof amdano.