Mae rhieni April Jones wedi dweud wrth bapur newydd eu bod yn gobeithio cael cynnal “angladd symbolaidd” gyda darnau o fân esgyrn eu merch.
Ond mae Paul a Coral Jones hefyd wedi dweud wrth y Sun nad ydyn nhw’n disgwyl cael clywed fyth lle y mae corff y ferch fach.
Peidio â gwybod oedd y rhan gwaetha’, yn ôl y fam – roedd hi’n torri ei chalon, meddai, o fod heb gorff i gael claddedigaeth iawn.
Er bod adroddiadau fod y llofrudd Mark Bridger wedi dweud wrth gaplan carchar ei fod wedi taflu corff April i afon, mae’r heddlu hefyd yn credu y gallai fod wedi gwasgaru darnau o’r corff mewn gwahanol lefydd yn ardal Machynlleth.
Geiriau Coral Jones
“Mae llawer o bobol wedi ei holi ond mae wedi gwrthod dweud ar hyd yr amser,” meddai Coral Jones wrth y papur newydd.
“Os ydi o wedi dweud celwydd wrth heddlu, bargyfreithiwr, y barnwr, dydi o fyth am ddweud wrtha’ i lle mae fy hogan fach.”
Wrth sôn am yr angladd symbolaidd, fe ddywedodd, “Dyna’r cyfan sydd gynnon ni ac mae’n ymddangos mai dyna’r cyfan gawn ni. Mae’n ofnadwy o anodd.”