The Doors - o'r chwith John Densmore, Robbie Krieger, Ray Manzarek a Jim Morrison
Mae sylfaenydd y grŵp The Doors, Ray Manzarek, wedi marw yn 74 oed.

Bu farw Manzarek yn Rosenheim yn yr Almaen ar ôl  brwydro yn erbyn canser.

Roedd Manzarek wedi sefydlu’r grŵp ar ôl cwrdd â Jim Morrison yng Nghaliffornia. Roedd The Doors yn un o fandiau roc a rôl fwyaf llwyddiannus y 60au ac mae’n parhau i gael dylanwad ar ffans ddegawdau ar ôl marwolaeth Morrison ym 1971.

Roedd Ray Manzarek wedi parhau gyda’i yrfa ym myd cerddoriaeth a bu hefyd yn gyfrifol am sefydlu grwpiau eraill, gweithio ar ffilmiau ac ysgrifennu.

Mae Manzarek ymhlith y chwaraewyr allweddell fwyaf dylanwadol yn hanes roc.

Mae The Doors yn fwyaf adnabyddus am eu caneuon fel Break On Through To The Other Side, The End a Light My Fire.

Fe werthodd The Doors dros 100 miliwn o albymau. Roedd y grŵp hefyd yn cynnwys y gitarydd Robby Krieger a’r drymiwr John Densmore.

Mae Manzarek yn gadael ei wraig Dorothy, ei fab Pablo a’i frodyr Rick a James.