Mae’r côr poblogaidd, Only Men Aloud, wedi datgan y bydd hanner aelodau’r côr yn gadael cyn diwedd y flwyddyn fel rhan o’u cynlluniau ailstrwythuro.

Wrth i docynnau cyngherddau Nadolig y côr fynd ar werth, dywedodd yr arweinydd, Tim Rhys Evans, wrth Wales Online mai dim ond wyth canwr fydd ar y llwyfan erbyn hynny.

Dywedodd bod y penderfyniad wedi ei wneud am resymau logistaidd wrth iddyn nhw anelu i ehangu eu hapêl fyd-eang.

Daeth y côr i amlygrwydd mewn rhaglen dalent, Last Choir Standing, pum mlynedd yn ôl a dywedodd Tim Rhys Evans eu bod nhw wedi cael profiadau bythgofiadwy ers hynny.

“Ond rydym wastad wedi ymchwilio i bosibiliadau newydd,” meddai, “a cheisio peidio â sefyll yn llonydd ac rydym yn gweld y datblygiad

hwn fel dechrau pennod newydd.”