Hywel Wyn Edwards
Bydd cystadleuwyr Dysgwr y Flwyddyn yn cyfarfod yn Theatr y Scala, Prestatyn, ddydd Sadwrn yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth.

Ar ddiwedd y dydd, bydd y pedwar sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis, a chynhelir y gystadleuaeth honno ddydd Mercher 7 Awst, gyda seremoni ym Melin Brwcws, Dinbych.

Dywedodd Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod: “Unwaith eto eleni mae nifer dda o unigolion wedi ymgeisio yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

“Rydym wedi cael enillwyr arbennig o gryf dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi ysbrydoli nifer fawr o bobl eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg.”

Beirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yw John Les Tomos, Eleri Swift Jones a Caryl Parry Jones.  Cyflwynir Tlws Dysgwr y Flwyddyn eleni gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru a bydd yr enillydd hefyd yn derbyn £300.

Bydd y tri ymgeisydd arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlysau llai, sydd hefyd yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, a £100 yr un.

Dysgu Cymraeg ar-lein

“Mae’r gystadleuaeth hon nid yn unig yn ddathliad o lwyddiant yr unigolyn sy’n ennill i ddysgu Cymraeg; mae’n ddathliad o lwyddiant pob cystadleuydd i fynd ati i ddysgu’r iaith, meddai Hywel Wyn Edwards, “ac yn ddathliad o lwyddiant gwersi ffurfiol ac anffurfiol ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt – ac ar-lein hyd yn oed.

“Rydym yn hyderus y cawn ddiwrnod hynod o dda ddydd Sadwrn ym Mhrestatyn ac y byddwn yn croesawu pedwar ymgeisydd arbennig i’r rownd derfynol ar Faes yr Eisteddfod.  Pob llwyddiant i bawb dros y penwythnos.”

Bydd gweithgareddau rownd cynderfynol Dysgwr y Flwyddyn yn cychwyn yn Theatr y Scala, Prestatyn am 09.15, ddydd Sadwrn 25 Mai.