Gorsaf Grand Central
Mae 60 o bobl yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl i ddau drên fod mewn gwrthdrawiad â’i gilydd yn Connecticut yn yr Unol Daleithiau. Mae pump wedi eu hanafu’n ddifrifol.

Roedd un trên yn teithio o orsaf Grand Central yn Efrog Newydd i New Haven yn Connecticut pan adawodd y cledrau. Cafodd ei daro wedyn gan drên arall ar gyrion Bridgport.

Dywedodd Llywodraethwr Connecticut Daniel Malloy fod cryn ddifrod wedi ei wneud i flaen un trên.