Sharm el-Sheikh
Mae plentyn  o Brydain fu farw mewn pwll mewn gwesty yn yr Aifft wedi cael ei henwi gan ei theulu.

Roedd Chloe Johnson, 5 oed, yn dod o Forest Hill yn ne Llundain.

Dywed cwmni teithio First Choice fod Chloe wedi marw mewn parc dŵr yng ngwesty’r Coral Sea Waterworld yn Sharm el-Sheikh.

Mae First Choice wedi datgan y byddan nhw’n “cynnal ymchwiliad llawn a manwl” i’r digwyddiad mwn partneriaeth â’r gwesty.

Eu blaenoriaeth yn awr oedd darparu cefnogaeth i’r teulu, meddai llefarydd ar ran y cwmni.

Mae Sharm el-Sheikh yn fan poblogaidd gydag ymwelwyr.