Y ty lle cafodd y tair eu dal yn gaeth
Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys yn ddiweddarach ar ol cael ei gyhuddo o dreisio a chipio tair dynes fu ar goll am ddegawd ac a gafodd eu darganfod yn fyw yn ei gartref yn Ohio.
Mae Ariel Castro, 52, sy’n dod o Puerto Rico, wedi ei gyhuddo o bedwar achos o gipio a thri achos o dreisio.
Ond nid yw ei frodyr, Pedro, 54, ac Onil, 50, wedi cael eu cyhuddo gan nad oes tystiolaeth eu bod nhw wedi bod yn rhan o’r drosedd.
Yn ôl cynghorydd yn Cleveland, Brian Cummins, roedd y merched wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ac yn seicolegol ac wedi dioddef sawl camesgoriad.
Mae’r heddlu’n credu mai dim ond dwywaith y cafodd y merched fynd allan yn ystod y cyfnod y buon nhw’n gaeth.
Yn ôl Brian Cummins mae’n debyg bod y merched wedi eu clymu gyda rhaffau a chadwyni a’u bod nhw wedi eu cadw yn seler y tŷ.
Roedd dwy o’r merched, Amanda Berry, 27, a Gina DeJesus, 23, wedi dychwelyd at eu teuluoedd ddoe. Credir bod y ddynes arall, Michelle Knight, 32, mewn cyflwr da mewn ysbyty lleol.
Roedd y tair wedi cael eu cipio ar adegau gwahanol pan oedan nhw yn eu harddegau ac 20au cynnar.