Timau achub yn chwilio'r rwbel ym Mangladesh
Mae nifer y rhai sydd wedi marw ar ôl i adeilad ddymchwel ym Mangladesh bellach wedi cyrraedd 161 wrth i dimau achub barhau i geisio chwilio am bobl a allai fod yn gaeth yn y rwbel.
Cafodd oddeutu 2,000 o bobl eu hachub o’r adeilad yn Dhaka ac mae timau achub a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio drwy’r nos i geisio cyrraedd y rhai sy’n gaeth yn y rwbel.
Roedd yr adeilad yn cynnwys nifer o ffatrïoedd dillad ac yn cyflogi cannoedd o bobl.
Yn ôl rhai o’r gweithwyr roedd craciau mawr wedi ymddangos yn strwythur yr adeilad y diwrnod cyn iddo ddymchwel.
Wrth ymweld â’r safle, dywedodd y gweinidog cartref Muhiuddin Khan Alamgir wrth ohebwyr bod yr adeilad yn torri rheolau adeiladu ac y byddai’r rhai oedd yn gyfrifol “yn cael eu cosbi.”
Primark
Mae’r digwyddiad wedi codi amheuon unwaith eto am ddiogelwch yr adeiladau sy’n gartref i’r ffatrïoedd hyn.
Ym mis Tachwedd y llynedd cafodd 112 o bobl eu lladd mewn tan mewn ffatri ddillad ym Mangladesh.
Mae Bangladesh, sydd ag oddeutu 4,000 o ffatrïoedd dillad, yn allforio’r dillad i gwmnïau yn y Gorllewin gan gynnwys Primark ym Mhrydain, Mango yn Sbaen a Benetton yn yr Eidal.
Dywed Primark y byddan nhw’n cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio “lle bod hynny’n bosib.”