Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant yn cael brechiad MMR cyn mynd i Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro ar 27 Mai.
Wrth i filoedd o blant ddod ynghyd ar gyfer yr wyl yng Nghilwendeg ger Boncath, mae nodyn ar wefan yr Eisteddfod yn annog rhieni i frechu eu plant cyn y digwyddiad, gan fod yr haint yn gallu lledu’n hawdd.
Mae’r cyngor ar wefan yr Eisteddfod yn rhybuddio bod “plant nad ydyn nhw wedi derbyn dau bigiad o frechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) ac sy’n dod i ddigwyddiadau lle bo llawer o blant eraill yn wynebu perygl.
“Os nad ydy eich plentyn wedi ei frechu’n llawn, ewch at eich meddyg teulu i drafod brechu ar unwaith, os gwelwch yn dda.”
Ymgyrch frechu yn Lloegr
Yn y cyfamser mae’r epidemig frech goch yn ardal Abertawe wedi arwain at ymgyrch i dargedu dros filiwn o blant yn Lloegr sydd heb gael eu brechu.
Fe fydd meddygfeydd, ysgolion a chanolfannau cymuned ar agor heddiw i blant sydd heb gael un neu ddau frechlyn MMR.
Mae disgwyl i’r ymgyrch gostio hyd at £20 miliwn.
Roedd yna 587 o achosion o’r frech goch yn Lloegr yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn, tair gwaith y nifer yn ystod yr un cyfnod y llynedd.
Yng Nghymru, mae 886 o achosion o’r frech goch wedi’u cadarnhau ers i’r epidemig ddechrau.
Wrth gyfeirio at yr ymgyrch yn Lloegr, dywedodd cyfarwyddwr imiwneiddio’r Adran Iechyd, Yr Athro David Salisbury: “Mae’r sefyllfa yn Abertawe, rwy’n credu, wedi deffro rhieni – rhieni, am ba bynnag reswm ychydig o flynyddoedd yn ôl, oedd wedi penderfynu peidio brechu eu plant…
“Ond gall yr hyn ddigwyddodd, ac sy’n parhau i ddigwydd, yn Abertawe ddigwydd yn unrhyw le yn Lloegr.”
Ychwanegodd fod pryderon penodol yn Llundain oherwydd dwysedd uchel y boblogaeth a symudiad cyson o bobol yn y brifddinas.