iPad
Mae cwmni technoleg Apple wedi cyhoeddi gostyngiad yn ei elw am y tro cyntaf ers degawd.

Fe gyhoeddodd y cwmni elw o £6.27 biliwn, gostyngiad o £1.38 biliwn ers yr un cyfnod y llynedd.

Roedd Apple wedi gwerthu 37.4 miliwn iPhone yn ail chwarter y flwyddyn, o’i gymharu â 35.1 miliwn am yr un cyfnod y llynedd, a 19.5 miliwn iPad o’i gymharu â 11.8 miliwn yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl.

Ond mae’r cwmni’n mynnu eu bod nhw’n fodlon gyda’u perfformiad ac yn dweud eu bod yn “gyffrous” am gynnyrch newydd fydd yn cael ei ryddhau yn yr hydref a 2014.

Credir bod y gostyngiad yn elw’r cwmni o ganlyniad i gystadleuaeth gynyddol yn y farchnad ac awgrymiadau eu bod wedi colli tir i Samsung.

Er bod elw Apple wedi gostwng mae ei refeniw wedi cynyddu i £28.6 biliwn o £25.7 biliwn y llynedd.