Mae pryderon wedi cael eu mynegi am fesurau Gweinidog Iechyd Cymru i fynd i’r afael ag oedi mewn adrannau brys ysbytai.

Dywedodd Mark Drakeford ddoe fod angen gwneud mwy i sicrhau fod cleifion, nifer fawr sy’n bobl oedrannus,  yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty i gael gofal yn y gymuned yn hytrach nag yn llenwi gwlâu heb fod angen.

Ond mae’r elusen Age Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydyn nhw am weld pobol oedrannus yn gorfod gadael yr ysbyty cyn eu bod nhw’n barod i wneud hynny.

Dywedodd Iwan Roberts o Age Cymru wrth y Post Cyntaf  bod  angen ydy system ofal sy’n darparu’r lefel o ofal mae pobl ei angen pan maen  nhw yn yr ysbyty ac ar ôl gadael yr ysbyty.

“Mae’n annerbyniol fod pobl yn aros yn yr ysbyty yn hirach na ddylai nhw, ond mae’n rhaid cofio mai trafodaeth am bobl yw hon, nid am welyau mewn ysbytai,” meddai.

‘Adrannau brys dan bwysau’

Wrth gyhoeddi’r mesurau ddoe dywedodd Mark Drakeford ei fod yn mynd i gwrdd â’r byrddau iechyd i fynd i’r afael â’r broblem o brinder gwlâu mewn ysbytai.

Dywedodd fod nifer yr henoed sy’n sâl wedi rhoi adrannau brys dan bwysau dros y chwe mis diwethaf.

“Mae pob rhan o’r Deyrnas Gyfunol yn profi’r pwysau hyn ond mae gan Gymru’r gyfran fwyaf o bobol dros 85 ac mae’r nifer yn cynyddu ar y raddfa gyflymaf,” meddai.

Cyhoeddodd Mark Drakeford na fydd cleifion sy’n disgwyl am eu dewis cyntaf mewn cartref gofal yn cael cymryd gwely mewn ysbyty tra eu bod nhw’n disgwyl am le, ac y byddan nhw’n cael llety addas dros-dro yn ei le.

Dywedodd hefyd na fydd cleifion hŷn mwyach yn cael llenwi gwlâu mewn ysbytai tra bod anghytundeb dros bwy sy’n talu am eu gofal nhw rhwng y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae hefyd wedi galw am gyflymu cyflwyno llinell gymorth 111 ar gyfer achosion sydd ddim yn rhai brys.

‘Rhaid i’r Gweinidog weithredu ei air’

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar wedi dweud bod angen sicrhau bod arian ar gael i gyflwyno’r newidiadau.

“Mae cyflwyno gofal diwedd oes effeithiol gydag urddas a darparu’r dewisiadau mae cleifion yn eu haeddu’n hollol hanfodol ac rwy’n croesawu themâu eang y cynllun hwn.

“Mae’n hanfodol bod gwelliannau’n cael eu gwneud a bod y safonau gofal uchaf ar gael ledled Cymru.

“Mae Llafur wedi gadael ein Gwasanaeth Iechyd gyda’r toriadau cyllideb uchaf erioed ac rwy’n annog y Gweinidog i fanylu ar gostau’r cynllun hwn a sut y byddan nhw’n cael eu hateb.

“Mae dogfen loyw gydag ymrwymiadau arwynebol yn un peth, ond rhaid i’r Gweinidog weithredu ei air a sicrhau bod adnoddau ar gael er mwyn ei gyflwyno.”

‘Argyfwng’

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones: “Mae’n amlwg ein bod yn wynebu argyfwng yn ein gwasanaethau iechyd brys, a bod angen gweithredu ar unwaith i sicrhau bod y gwasanaethau yn gallu ymdopi dan y pwysau sydd arnyn nhw.

“Ond er fod unrhyw weithredu ar y mater hwn gan y Gweinidog i’w groesawu, mae ei gyhoeddiad yn ymdrin ag un elfen o’r broblem yn unig, sef y nifer o bobl sydd yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty i leoliadau gofal eraill.

“Mae dal angen gweithredu ar y broblem fwyaf, sef bod llawer gormod o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd brys – problem sydd yn siwr o waethygu gyda polisi y llywodraeth i ganoli gwasanaethau mewn llai o ysbytai.

“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn amddiffyn yr adrannau brys yn ein ysbytai cyffredinol, ac yn ymestyn gwasanaethau y tu allan i oriau er mwyn lleihau y pwysau arnynt.”