Mewnblaniadau'r fron
Mae angen rheoleiddio’r diwydiant triniaethau cosmetig yn well, yn ôl grŵp adolygu gafodd ei sefydlu yn dilyn yr helynt am fewnblaniadau bron PIP.

Yn ôl cyfarwyddwr meddygol y GIG, Syr Bruce Keogh, fu’n cadeirio’r adolygiad, mae triniaethau cosmetig yn cael eu “normaleiddio” a’u hybu gan  raglenni teledu fel The Only Way Is Essex, cylchgronau, y rhyngrwyd a gwefannau cymdeithasol, ac nad yw pobl yn ymwybodol o’r risg.

Yn 2010, roedd pobl ar draws y DU wedi gwario £2.3 biliwn ar driniaethau cosmetig, yn amrywio o Botox i fewnblaniadau’r fron.

Ond mae’r bwrdd yn dweud eu bod wedi synnu o glywed nad yw llawer o’r triniaethau, fel pigiadau i lenwi rhychau, yn cael eu rheoleiddio.

Yn ôl y bwrdd, fe ddylai’r cynnyrch sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y triniaethau hyn  fod ar bresgripsiwn yn unig.

Mae adroddiad y bwrdd hefyd yn argymell y dylid creu rhestr o bobl sy’n gymwys i roi’r triniaethau cosmetig yma.