Mae gwerthiant Lloyd’s Banking Group o fwy na 600 o’i ganghennau i’r Co-Operative Group wedi methu.
Mae Lloyds yn gorfod gwerthu’r canghennau ar ôl i’r trethdalwr orfod talu £20 biliwn i achub y banc yn ystod yr argyfwng ariannol. Fe fydd Lloyd’s nawr yn ceisio gwerthu’r adran ar y farchnad stoc yn yr haf.
Mae’r Co-op wedi dweud nad oedd yn gallu parhau gyda’r cytundeb oherwydd y rhagolygon economaidd llwm.