Chrissy Amphlett
Mae Chrissy Amphlett, prif leisydd y grŵp o Awstralia Divinyls, wedi marw yn ei chartref yn Efrog Newydd yn 53 oed.

Dywedodd ei gŵr Charley Drayton ei bod wedi marw o ganlyniad i ganser y fron a sglerosis ymledol (MS).

Cafodd y Divinyls eu sefydlu ym 1980 ar ôl i Chrissy Amphlett gwrdd â’r cerddor Mark McEntee mewn cyngerdd yn Nhŷ Opera Sydney.

Roedd y band wedi rhyddhau chwe albwm rhwng 1982 a 1996 ond roedd yn fwyaf enwog am y gan I Touch Myself a gyrhaeddodd  rhif 1 y siartiau yn Awstralia, rhif 4 yn y UDA, a rhif 10 ym Mhrydain ym 1991.