Y diweddar Patrick Garland
Mae Patrick Garland, un o gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr amlyca’r byd theatr Saesneg, wedi marw. Roedd yn 78 mlwydd oed.
Roedd ei wraig, yr actores Alexandra Bastedo, wrth ei erchwyn yn Ysbyty Worthing yng Ngorllewin Sussex, lle’r oedd wedi ei gludo’n ddiweddar yn dilyn gwaeledd byr.
Patrick Garland oedd yr unig gyfarwyddwr i fod â phedair drama’n cael eu llwyfannu yn y West End ar yr un pryd. Roedd wedi gweithio gyda nifer o enwau mawr y theatr.
Un o’r rheiny oedd yr actor, Rex Harrison, a hynny mewn cynhyrchiad Broadway o My Fair Lady. Yn ddiweddarach, fe ysgrifennodd Garland gofiant i’r actor, dan y teitl The Incomparable Rex.
Fe enillodd Patrick Garland wobr Golden Globe ddechrau’r 1970au am ei ffilm The Snow Goose. Efallai mai uchafbwynt ei yrfa ym myd perfformio oedd cael ei benodi, ddwywaith, yn gyfarwyddwr Gŵyl Chichester.