Cerflun o 'Dafydd ap Gwilym'
Mae cyfrol newydd yn defnyddio technegau ditectif barddoniaeth er mwyn darganfod pwy oedd y dyn tu ôl i’r cerddi sy’n cael eu hystyried yn drysorau mwya’ barddoniaeth Gymraeg.
Mae ‘Dafydd ap Gwilym: y gŵr sydd yn ei gerddi’ gan yr Athro Gwyn Thomas yn edrych ar waith y bardd er mwyn dysgu am y dyn ei hun.
“Ychydig o wybodaeth sydd am ei fywyd,” meddai Gwyn Thomas. “Felly mae rhywun yn gorfod trio cael amcan o sut un oedd o yn y cerddi sgwennodd o a dyna pam fy mod i wedi dewis y teitl yna i’r llyfr.”
Personoliaeth gref
Er nad oes llawer o ffeithiau, mae Gwyn Thomas wedi gallu creu syniad o bersonoliaeth Dafydd ap Gwilym o’r cerddi.
“Roedd o’n bersonoliaeth oedd yn agored i bob math o ddylanwadau’r cyfnod,” meddai. “Ac roedd o’n gallu sugno’r dylanwadau a’i wneud yn rhan o’i bersonoliaeth ei hun.
“Mae o mor gwbl wahanol i unrhywun arall yn ei gyfnod ei hun, ac wedyn, ac mae personoliaeth arbennig i’w gweld yn y cerddi.
“Roedd o hefyd wedi ysgrifennu cryn swmp o waith sydd wedi goroesi yn wahanol i sawl bardd yn yr Oesoedd Canol.
Pam ei fod o mor bwysig
“Mae’r gyfrol wedi cadarnhau beth oeddwn i wedi ei benderfynu cynt wrth ddarllen ei waith o,” meddai Gwyn Thomas, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru.
“Mae traddodiad o feddwl am Dafydd fel bardd yr haf a straeon digri ond mae hefyd ynddo fo ymwybyddiaeth o henaint ac mae’n sgwennu pethau dwys iawn.
“Mae’n un o’r beirdd pwysicaf Ewropeaidd yn yr oesoedd canol. Mae ‘na ddyn o’r Iseldiroedd wedi ei astudio. Mae pobol yn yr Almaen wedi sgwennu amdano fo mewn Almaeneg ac mae Saeson ac Americanwyr wdi sgwennu amdano fo.
“Ond er ei fod o wedi cael sylw helaeth, efallai ei fod o’n haeddu mwy ar lefel ryngwladol.”
Gormod o Saesneg?
Er bod astudiaeth newydd am ddefnydd Dafydd ap Gwilym o eiriau Saesneg yn y gyfrol, cadarnhau argraff gynharach a wnaeth hynny hefyd.
“Roedd Goronwy Owen yn dweud bod gormod o Saesneg yn ei waith o ond dydi hyn ddim yn wir,” meddai Gwyn Thomas.
“Mae’n defnyddio geiriau Saesneg ond mae llawer o’r geiriau estron yn dod o’r Lladin neu’r Ffrangeg. Roedd yyr eirfa newydd yn dod o’r cylchoedd yr oedd o’n troi ynddyn nhw.”
Stori: Ciron Gruffudd