Mae tywarchen Eisteddfod yr Urdd ym Moncath eleni wedi cael ei thorri heddiw.

Cafodd y digwyddiad ei gynnal y bore ma ar fferm Cilwendeg yn Sir Benfro, ac fe fydd y gwaith o baratoi’r maes ar gyfer y brifwyl yn magu coesau o heddiw ymlaen.

Bu’r amryw bwyllgorau wrthi’n codi arian ar gyfer y digwyddiad ers 2010, a dydyn nhw ddim yn bell oddi wrth eu nod o £251,000.

Mae rhai o’r is-bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Ieuenctid, eisoes wedi bwrw eu targedau unigol.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Ieuenctid, Dafydd Vaughan: “Ry’n ni bron iawn â dwblu’r targed o £3,000 ar ôl codi cymaint â £5,800 rhyngddon ni ar y pwyllgor.

“Mae nifer o weithgareddau eraill wedi eu trefnu yn y dyfodol agos, gan gynnwys taith gerdded ar hyd arfordir y sir ar benwythnos Gŵyl Banc Mai, a gêm bêl-droed sy’n cynnwys amryw selebs Cymreig ar nos Wener wythnos y steddfod.”

Mae’r digwyddiadau eraill sydd wedi’u trefnu yn cynnwys lansiad CD newydd y band lleol Mattoidz, ac fe fydd gig ar Fehefin 1 yng Nghanolfan Hermon gydag Al Lewis, Y Bromas, Ffug a Castro.

Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Morys Gruffydd: “Ry’n ni wedi bod yn gweithio gyda’r amryw bwyllgorau ers dwy neu dair blynedd ac mae’r brwdfrydedd yn cynyddu.

“Mae pawb am weld ffrwyth eu llafur.

“Mae’n anhygoel bod y gefnogaeth wedi bod cystal yn yr hinsawdd economaidd presennol.

“Mae’r cymunedau di-Gymraeg yn ne’r sir wedi bod yn allweddol hefyd ac wedi cymryd at y gwaith o godi arian.”

Fe fydd yr Eisteddfod ar fferm Cilwendeg, ar ôl i’r perchennog Tudoria Bowen gytuno i gynnal y digwyddiad yno.

Dywedodd hi wrth Golwg360: “Mae’r Steddfod wedi bod yma o’r blaen yn 1995, ac mae’n neis iawn ei chael hi yma eto.

“Mae’r fferm wedi bod yn y teulu ers dros gan mlynedd, ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r digwyddiad yma eto.”