Mwg yn codi o'r ffatri wedi' r ffrwydrad
Mae hyd at 15 o bobl wedi cael eu lladd ar ôl ffrwydrad mewn ffatri gwrtaith ger Waco, yn Tecsas.
Yn ôl yr heddlu mae rhwng 5 a 15 o bobl wedi marw ac mae o leiaf 160 hefyd wedi eu hanafu.
Fe ddigwyddodd y ffrwydrad yn ffatri West Fertilizer toc wedi 8yh (amser lleol) ac mae wedi difrodi adeiladau dros ardal eang. Roedd y ffrwydrad i’w glywed 45 milltir i ffwrdd.
Mae na bryder bod nifer o bobl yn dal yn gaeth mewn adeiladau sydd wedi dymchwel.
Credir bod tanc o ammonia wedi ffrwydro.
Plismon yn cerdded drwy adeilad gafodd ei ddifrodi yn y ffrwydrad
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdodau yno y bydd hi’n beth amser cyn y byddan nhw’n gwybod faint o bobl sydd wedi eu lladd a’r difrod sydd wedi ei achosi gan y ffrwydrad yn West, tua 20 milltir i’r gogledd o Waco.
Dywedodd Llywodraethwr Tecsas Rick Perry bod swyddogion yn dal i fonitro’r sefyllfa er mwyn asesu maint y difrod.
Mae’r gwasanaethau brys yn dal i geisio ymladd y fflamau yn y ffatri a’r adeiladau cyfagos.