Safle'r ffrwydradau yn Boston
Mae person wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r ffrwydradau yn ystod Marathon Boston ddydd Llun, yn ôl yr awdurdodau yn y UDA.

Mae disgwyl i’r person ymddangos gerbron llys ffederal yn Boston.

Roedd yr awdurdodau wedi apelio ar bobl am wybodaeth ynglŷn â’r ffrwydradau a laddodd tri o bobl ac anafu 176 ddydd Llun. Cafodd manylion am y ddau fom hefyd eu rhyddhau ond dywed yr FBI nad oedd unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb.