Mae dyn 78 oed wedi derbyn gorchymyn gwrthgymdeithasol (Asbo) am fegera ar strydoedd Abertawe, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Heddlu’r De bod Alan Riley yn wyneb cyfarwydd iddyn nhw a’i fod e wedi bod yn niwsans mewn sawl ardal ers nifer o flynyddoedd.
Derbyniodd y gorchymyn gan Lys Ynadon Caerdydd er mwyn amddiffyn y cyhoedd, yn ôl yr heddlu.
Cafodd ei wahardd rhag begera yn y tri lle, ac fe gafodd orchymyn i beidio rhegi, sarhau neu ymosod yn eiriol ar unrhyw un yn gyhoeddus.
Pe bai’n torri amodau’r gorchymyn, fe allai dreulio cyfnod o bum mlynedd yn y carchar a/neu ddirwy.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Er gwaethaf nifer o gyfleoedd i newid ei ymddygiad a chael cynnig cymorth gan wahanol sefydliadau, mae’n parhau i gael ei weld yn gyson yn ymweld â nifer o leoliadau ar ffyn baglau yn begera am arian.
Ychwanegodd fod yr heddlu wedi gwneud cais am orchymyn gwrthgymdeithasol yn ei erbyn oherwydd ei droseddu cyson.