Barack Obama
Mae’r FBI wedi cadarnhau bod llythyr gafodd ei anfon at Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn cynnwys olion o’r gwenwyn ricin.
Mae profion gwenwyn wedi cael eu cynnal ar y llythyr, ac mae’r awdurdodau’n aros am ganlyniadau pellach.
Fe fydd angen rhagor o brofion ar y llythyr cyn eu bod yn gallu cadarnhau a oedd yna wenwyn arno.
Cafodd y llythyr ei ddarganfod cyn iddo gyrraedd y Tŷ Gwyn, ddiwrnod yn unig ar ôl i lythyr arall yn cynnwys y gwenwyn gael ei anfon at y Gweriniaethwr Roger Wicker yn Washington.
Mae’r FBI wedi cadarnhau eu bod nhw’n trin y ddau lythyr fel achosion cysylltiedig.
Cafodd y ddau lythyr eu llofnodi gan “KC”, oedd wedi dweud “Fi yw KC ac rwy’n cymeradwyo’r neges hon”.