Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi’r gorau i gynllun morgeisi, a fyddai wedi helpu pobl i brynu ty, wythnosau cyn iddo ddechrau.

Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, fod y penderfyniad i gefnu ar gynllun NewBuy Cymru wedi’i wneud oherwydd cyhoeddiad Llywodraeth Prydain am fentrau tai newydd fel rhan o Gyllideb y Canghellor fis diwethaf.

Ond fe ddywedodd y bydd cynllun Helpu i Brynu: Cynllun Gwarantu Morgeisi ar gael yng Nghymru o fis Ionawr 2014 ymlaen i bobol sy’n prynu tai sydd wedi’u codi a thai newydd sydd werth hyd at £600,000.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru’n archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno’r cynllun Helpu i Brynu: Cynllun Ecwiti Benthyciadau, sydd ar gael yn Lloegr yn unig ar hyn o bryd.

‘Chwit-chwat’

Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar dai, Rhodri Glyn Thomas wedi dweud ei fod yn siomedig gyda’r  penderfyniad i gefnu ar y cynllun.

“Mae’n siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru wedi dileu’r cynllun NewBuy cyn iddo gychwyn, hyd yn oed.

“Bu Llywodraeth Cymru yn chwit-chwat ers meitin am y cynllun fuasai wedi helpu prynwyr tro-cyntaf i roi troed ar yr ysgol eiddo, ac y mae eu chwit-chwatrwydd unwaith eto wedi arwain at siomedigaeth.

“Mae’n hen bryd iddynt gymryd camau allai helpu darpar-brynwyr tai yng Nghymru.

“Mae helpu pobl i fynd ar yr ysgol eiddo yn rhoi sicrwydd cyfalaf i bobl, ac y mae’n hanfodol bwysig ar gyfer twf economaidd.”