Mae ffliw adar wedi cael ei ganfod mewn dofednod ar fferm yn Suffolk, yn ôl swyddogion.

Ond nid yw’r ffliw sydd wedi cael ei ddarganfod ar fferm Bernard Matthews yn ffurf sy’n gallu cael ei drosglwyddo i bobl.

Mewn datganiad dywedodd cwmni Bernard Matthews bod rhai o’r adar ar un o’i ffermydd wedi dangos symptomau dros y penwythnos, a’u bod wedi cysylltu â’r Adran Amgylchedd (Defra).

Mae ffliw adar wedi ei ganfod yno ond nid y math H5 neu H7 oedd wedi achosi i’r haint ledu ymhlith dofednod yn y DU yn y gorffennol ac wedi cael ei drosglwyddo i bobl.

Dywed y cwmni bod cyfyngiadau mewn lle ar y fferm ond eu bod yn disgwyl iddyn nhw gael eu codi o fewn y dyddiau nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Defra eu bod nhw’n aros am ganlyniadau pellach fel rhan o’r ymchwiliad i achosion posib o ffliw’r adar ar safle yn y De Ddwyrain.

Ychwanegodd bod Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn barod i gymryd y camau angenrheidiol os oedd angen tra eu bod yn aros am ganlyniadau pellach.