Rhan o arwyddlun Gogledd Korea
Mae cymdogion Gogledd Korea yn paratoi heddiw rhag ofn y bydd taflegryn yn cael ei danio yn ystod dathliadau pen-blwydd y brifddinas Pyongyang.
Roedd yna bryderon ddoe y gallai’r wlad gomiwnyddol danio taflegrau pellter-canolig ac mae systemau radar ym mhrifddinas De Korea, Seoul, wedi’u paratoi i warchod rhag unrhyw fygythiad.
Gall y taflegryn ‘Musudan’ deithio pellter o 2,180 milltir, sy’n ddigon pell i gyrraedd y De a Japan.
Dim cyhoeddiad
Dyw’r Gogledd ddim wedi cyhoeddi bwriad i danio’r taflegryn ond mae tensiwn rhwng y ddwy wlad wedi cynyddu oherwydd dicter y Gogledd am ymarferion milwrol sy’n cael eu cynnal gan Dde Korea a’r Unol Daleithiau.
Mae De a Gogledd Korea wedi bod yn ymgiprys am bŵer ers Rhyfel Corea yn yr 1950au, ac mae’r Gogledd yn awyddus i gyflwyno cytundeb heddwch newydd yn lle’r cadoediad sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Cafodd teithwyr yn Ne Korea rybudd eisoes i ganfod lloches.