Un o adeiladau'r brifysgol newydd yng Nghaerdydd (o wefan y brifysgol)
Mae Prifysgol fwya’ Cymru wedi agor ei drysau’n swyddogol am y tro cynta’ heddiw.
Mae Prifysgol De Cymru yn tynnu dwy brifysgol arall at ei gilydd – Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Casnweydd – gan greu sefydliad gyda 33,500 o fyfyrwyr a bron 4,000 o staff.
Mae hynny’n golygu ei bod ymhlith y deg uchaf o brifysgolion gwledydd Prydain, gyda chanolfannau yng Nghaerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd.
Mae’r uno’n dilyn trafodaethau hir a oedd, ar un adeg, yn cynnwys Prifysgol Fetropolitaidd Caerdydd ar ôl i’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fynnu bod eisiau llai o brifysgolion.
Ar ôl brwydr gyhoeddus, fe benderfynodd y Brifysgol Fetropolitaidd na fydden nhw’n ymuno â’r ddwy arall.
Croeso gan Carwyn
Ond fe gafodd y Brifysgol newydd groeso gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, sy’n dweud ei bod yn enghraifft o “arweiniad a meddwl strategol” ar waith.
“Mae gen i bob hyder y bydd Prifysgol De Cymru yn dangos y gall prifddinas-ranbarth Cymru gystadlu â’r rhanbarthau o bwys yn Ewrop,” meddai.