Ysbyty Tywysoges Cymru (Mick Lobb CCA 2.0)
Roedd llawfeddyg yn un o brif ysbytai Cymru wedi mentro gormod wrth gynnal llawdriniaeth gymhleth a aeth o le, meddai’r ombwdsmon.
Doedd y claf, a fu farw chwe diwrnod wedyn, ddim yn sylweddoli pa mor beryglus oedd y driniaeth, yn ôl yr adroddiad am yr achos yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bopnt ar Ogwr.
Fe gafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg orchymyn i ymddiheuro i deulu’r dyn a thalu £5,000 o iawndal.
Roedd y llawfeddyg wedi gorfod rhoi’r gorau i’r llawdriniaeth cyn ei gorffen.
Sylwadau’r ombwdsmon
“Dw i ddim yn credu bod y gŵr bonheddig yn deall pa mor fawr oedd y risg yr oedd yn ei wynebu,” meddai’r ombwdsmon, Peter Tyndall mewn datganiad ar Radio Wales.
Doedd y dyn ddim wedi sylweddoli fod peryg gwirioneddol i’w fywyd ac, er nad oedd amheuaeth fod y llawfeddyg yn un da, roedd y driniaeth yn her i’w allu.
“Oedd y llawdriniaeth yma’n un posib? Na, doedd e ddim.”