Cymeriadau PyC - Sioned, Jess, Llew, Gemma, Cai,
Mae grŵp sy’n gweithio gyda phobol hoyw a thrawsrywiol wedi croesawu cynnwys cymeriad trawsrywiol mewn cyfres newydd sy’n seiliedig ar Bobol y Cwm.

Mae PyC yn gyfres o bum pennod sy’n cael ei darlledu ar wefan S4C ac wedi ei chreu gan yr un tîm o fewn BBC Cymru sy’n cynhyrchu Pobol y Cwm. Mae wedi ei hanelu at wylwyr 18-30 oed ac yn cynnwys penodau byr, cignoeth.

Roedd trydedd bennod y gyfres heno (nos Fercher) wedi datgelu fod cymeriad Llew yn ddyn trawsrywiol ac yn y broses o newid rhyw ei gorff o fenyw i wryw.

Dywedodd Jayne Rowlands o Unity Project Wales sy’n cynnig cefnogaeth i’r gymuned LGBT: “Mae cymaint o ffordd i fynd i oresgyn y rhagfarnau yn y gymuned LBGT a dyna pam fod rhaglenni arloesol fel PyC mor bwysig.

“Mae gweld rhywun sydd yr un peth â thi yn delio â bywyd, yn ddigwyddiadau hapus a thrist, yn hytrach na bod ar y cyrion yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i berson ifanc.

“Wrth dyfu fyny mae ceisio dod i delerau â bod yn drawsrywiol yn aml yn brofiad ynysig. Ynghyd â’r broses anodd o geisio deall eich teimladau a dod i delerau â nhw mae pwysau anferth arnoch chi i ymddwyn fel dylai ‘bachgen’ neu ‘ferch’ ei wneud. Dyma pryd daw’r feirniadaeth fod y ‘rheolau’ hyn yn cael eu torri.”

Y cynhyrchwyr

Wrth greu’r gyfres bu tîm BBC Cymru Wales yn gweithio gyda mudiadau megis Unity Project Wales sy’n cynnig cefnogaeth i bobol drawsrywiol. Dywedodd cynhyrchydd PyC, Hannah Thomas: “Roedd yn bwysig wrth fynd ati i lunio’r stori ein bod ni’n delio â’r pwnc mewn modd sensitif a chywir.

“Roedd yn bwysig fod mudiadau trawsrywiol yn cefnogi’r prosiect a buon ni hefyd yn cwrdd â phobol sydd wedi, neu sy’n dymuno, cael triniaeth i newid eu rhyw.”

Yn ôl awdures PyC, Bethan Marlow, roedd y profiad wedi bod yn un emosiynol.

“Doedd gen i ddim syniad pa mor ddifrifol oedd y problemau a’r boen emosiynol mae pobol drawsrywiol yn delio ag o. Roedd yr ymchwilio yn broses anodd ond hefyd yn un obeithiol am fod diwedd hapus i sawl stori.”

Yr actor

I’r actor ifanc Gwydion Rhys, sy’n chwarae rhan Llew, roedd mynd ati i afael â her y cymeriad yn brofiad gwbl newydd, meddai.

“Ochr seicolegol y cymeriad oedd anoddaf i geisio deall am fod sefyllfa’r cymeriad yn un gwbl estron i mi. Ond drwy’r sgript, a’r gwaith ymchwil, llwyddais i adeiladu’r cymeriad.”

Adrodd stori ar sawl platfform

Mae PyC yn cael ei dangos ar wefan S4C – s4c.co.uk/pyc. Hefyd mewn dull newydd o ddweud stori, mae rhai o’r cymeriadau yn rhannu eu gofidion a’u gobeithion drwy gyfrifon Facebook a Twitter ffuglennol. Yno mae’r cymeriadau yn cyfathrebu gyda’i gilydd a gyda’r gwylwyr.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, “Mae’n gwbl addas fod cyfres fel PyC yn delio â phynciau sy’n berthnasol i bobl ifanc a hynny ar blatfformau maen nhw yn eu defnyddio o ddydd i ddydd.”

Bydd pennod nesa’r gyfres yn ymddangos ar y wefan am 9yh nos Iau 11 Ebrill, gyda’r bennod ola’ nos Wener 12 Ebrill. Wedi hynny bydd y gyfres gyfan ar gael i’w gwylio ar y wefan unrhyw awr o’r dydd am bythefnos arall.