Mae hunanfoniwr wedi lladd 20 o bobol ac anafu mwy na 50 mewn ymosodiad mewn rali wleidyddol yn ninas Baqouba yn Irac.
Fe ffrwydrodd y bomiwr ei ddyfais fel yr oedd yr ymgeisydd, Muthana al-Jourani, yn cynnal cinio i’w gefnogwyr yn y ddinas 35 milltir i’r gogledd-ddwyrain o’r brifddinas, Baghdad.
Mae disgwyl mwy o ymosodiadau treisgar cyn yr etholiadau rhanbarthol yn Irac ar Ebrill 20.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yma, ond mae’r awdurdodau’n awgrymu fod y math yma o ymosodiad yn debyg i rai gan wrthryfelwyr al-Qaida. Maen nhw’n ceisio tanseilio’r llywodraeth Shiite.