Mae dau berson yn eu harddegau wedi marw yn yr ysbyty ar ôl i dân gynnau mewn tŷ lle’r oedd wyth o bobol yn byw.
Mae bachgen teirblwydd oed yn parhau i gael ei drin yn yr ysbyty ar ôl y tân yn Lee Close yn ardal Honiton yn Nyfnaint ddoe.
Mae llefarydd ar ran Heddlu Dyfnaint a Chernyw wedi cadarnhau fod merch 17 oed a dyn 18 oed wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol a achoswyd gan y tân.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 8 o’r gloch fore ddoe, ac fe aethpwyd â phump o bobol i Ysbyty Brenhinol Dyfnaint yng Nghaewysg. Fe gafodd y plentyn 3 oed ei symud wedyn i ysbyty arbenigol Frenchay ym Mryste.
Fe gafod bachgen 6 blwydd oed a dyn yn ei 30au hefyd eu trin ar ôl anadlu mwg.
Roedd saith aelod o’r un teulu, ac un person arall, yn y tŷ pan gynheuodd y tân.