Mae siop ddodrefn Ikea wedi tynnu 17,000 o becynnau o’i lasagne cig carw oddi ar y silffoedd, ar ôl canfod olion o gig moch yn y bwyd yng ngwlad Belg.

Dim ond ers mis y mae’r cynnyrch wedi bod ar werth, ac fe gafodd ei dynnu’n ôl ar Fawrth 22, yn ôl llefarydd ar ran y cwmni sydd â’i bencadlys yn Sweden.

Wnaeth y cwmni ddim cyhoeddi datganiad ar y pryd – hyd nes i bapur newydd Swedeg Svenska Dagbladet gyhoeddi stori ar y mater heddiw.

Roedd Ikea eisoes wedi tynnu’n ôl rhai o’u pelenni briwgig a rhai cynnyrch cig eraill yn eu caffis ac adrannau bwyd rhewedig eu siopau, wedi canfod olion o gig ceffyl ynddyn nhw.