Mohammed Morsi - cyff gwawd cyson ar y rhaglen ddychan
Mae llys yn Cairo wedi gwrthod gwahardd sioe deledu ddychanol a phoblogaidd sy’n cael ei darlledu ar deledu’r Aifft.

Mae Llys Gweinyddol wedi dyfarnu heddiw yn erbyn gwahardd El-Bernameg (Y Rhaglen). Mae’r rhaglen yn aml yn dychanu arlywydd Islamaidd yr Aifft, Mohammed Morsi.

Roedd cyfreithiwr wedi galw am ddiddymu trwydded y sianel sy’n darlledu’r rhaglen, gan honni ei bod hi’n “llygru moesau” ac yn sarhau “egwyddorion crefyddol”.

Fe gafodd cynhyrchydd y rhaglen ei holi yr wythnos hon ar fater arall o sarhau Islam a’r arlywydd. Mae’r holi hwnnw wedi cael ei feirniadu gan lywodraeth America ac ymgyrchwyr hawliau dynol.