Mae miloedd o aelodau grwp Mwslimaidd yn cynnal rali ym mhrifddinas Bangladesh heddiw, yn galw ar i lywodraeth y wlad weithredu cyfraith gabledd er mwyn cosbi pobol sy’n dwyn anfri ar Islam.

Mae’r rali’n digwydd yn Dhaka ac mae wedi’i threfnu gan y grwp Hifazat-e-Islam. Mae Hifazat-e-Islam yn defnyddio sylwadau diweddar grwp o flogwyr er mwyn honni eu bod nhw’n anffyddwyr.

Ond mae’r blogwyr yn gwadu hynny, ac maen nhw’n galw am ddefnyddio’r gosb eithaf i gosbi’r rheiny oedd yn gyfrifol am droseddau rhyfel yn ystod rhyfel annibyniaeth y wlad yn 1971.

Maen nhw hefyd yn galw am wahardd y blaid Islamaidd Jamaat-e-Islami.

Yn y cyfamser, mae tua 25 o grwpiau rhyddfrydol yn Bangladesh yn galw ar i bawb anwybyddu rali Hifazat-e-Islam.